› Forums › General Discussion › Invitation to the Senedd – Pushing the Frontiers of Space
- This topic has 0 replies, 1 voice, and was last updated 1 month ago by
Callum Potter.
Viewing 1 post (of 1 total)
-
AuthorPosts
-
13 March 2025 at 9:52 am #628727
Callum Potter
KeymasterMembers may be interested in this event in Cardiff
Gwthio Ffiniau Archwilio’r Gofod:
Cyfle i weld crwydryn Mawrth
Annwyl British Astronomical Association
Rwy’n ysgrifennu atoch i’ch gwahodd i ddigwyddiad yn y Senedd, wedi ei noddi gan Cefin Campbell AS, a fydd yn amlygu sut mae ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth yn gwthio ffiniau ym maes archwilio’r gofod.
Cynhelir y digwyddiad am 12.00pm ddydd Mercher, 2 Ebrill yn Neuadd y Senedd ym Mae Caerdydd.
Fel rhan o’r digwyddiad, bydd ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth yn gwneud cyflwyniadau byr am eu hymchwil gofod, gan gynnwys ym meysydd tywydd ac offerynnau’r gofod.
Yn ogystal, bydd cyfle i chi dynnu llun gydag ein model maint-llawn o grwydryn ExoMars, a adeiladwyd gennym yma yn Aberystwyth. Mae ein hymchwilwyr yn chwarae rhan allweddol yn nhaith ExoMars, gyda’r disgwyl y bydd crwydryn yn glanio ar y blaned yn 2028 er mwyn cynnal ymchwil o bwys.
Darperir lluniaeth a chinio gan gynnig y cyfle i rwydweithio gydag ystod o bobl sydd â diddordeb yn y maes.
Byddwch hefyd yn gallu sgwrsio ag ymchwilwyr a phartneriaid busnes am waith planedol a gofod arall sy’n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth nes diwedd y digwyddiad am 1:30pm.
Byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi roi gwybod eich bod chi, neu rywun ar eich rhan, yn medru ymuno â ni yn y Senedd drwy e-bostio cyfathrebu@aber.ac.uk erbyn 21 Mawrth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Kelly Jones ar kej27@aber.ac.uk.
Yr eiddoch yn gywir,
Yr Athro Angela Hatton
Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi, Prifysgol AberystwythPushing the Frontiers of Space:
Chance to see Mars rover
Dear British Astronomical Association
I am writing to invite you to a lunchtime event in the Senedd, sponsored by Cefin Campbell MS, that will highlight how Aberystwyth University researchers are pushing the frontiers of space exploration.
The event will be held at 12.00pm on Wednesday, 2 April in the Neuadd in the Senedd in Cardiff Bay.
As part of the event, researchers at Aberystwyth University will give presentations about their space research, including in the fields of space weather and instrumentation.
There will also be an opportunity for you to take a photo with our own full-size model of the ExoMars rover, which we built here in Aberystwyth. Our researchers are playing a key role in the ExoMars mission, with the rover due to land on the planet in 2028 to carry out vital research.
Lunch and refreshments will be provided giving you an opportunity to network with a range of interested parties.
You will also be able to chat with scientists and industry partners about other planetary and space work underway at Aberystwyth University until the event ends at 1:30pm.
We would be grateful if you could let us know if you, or someone on your behalf, can join us at the Senedd by emailing communications@aber.ac.uk by 21 March.
If you have any questions, please feel free to contact Kelly Jones on kej27@aber.ac.uk.
Yours,
Professor Angela Hatton
Pro Vice-Chancellor for Research, Knowledge Exchange and Innovation, Aberystwyth University-
This topic was modified 1 month ago by
Callum Potter.
-
This topic was modified 1 month ago by
-
AuthorPosts
Viewing 1 post (of 1 total)
- You must be logged in to reply to this topic.